Cartrefi gofal preswyl
Amrywiaeth ein
Mae MHC yn darparu lle byw i oedolion sydd ag Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth, Anableddau Dysgu a/neu Gyflyrau Iechyd Meddwl yn un o'n cartrefi preswyl arbenigol, lle maen nhw’n derbyn y gefnogaeth broffesiynol sydd ei hangen arnynt i allu byw yn fwy annibynnol.
Cartrefi Preswyl
Mae'r cartrefi preswyl heb nyrsio'n cefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu, y rhai sy'n awtistig a phobl ag anhwylderau iechyd meddwl i ddatblygu neu adeiladu sgiliau bywyd hanfodol sy'n eu paratoi nhw ar gyfer bywyd mwy annibynnol. Mae gan MHC ystod eang o wasanaethau preswyl o drefniadau byw i unigolion sengl i drefniada4 u byw i grwpiau.
Cartrefi Preswyl wedi'u Hachredu ar gyfer Awtistiaeth
Mae ein gwasanaethau achrededig ar gyfer awtistiaeth yn darparu gofal a chymorth i bobl sydd ag awtistiaeth, sydd ag anabledd dysgu a/neu anghenion cymhleth cysylltiedig. Unigolion ag ymddygiadau a ystyrir yn heriol, a ffyrdd o gyfathrebu'n gymdeithasol a rhyngweithio'n gymdeithasol a allai elwa o’r dull a gynigir yn y gwasanaethau hyn.