Holly
Cartref preswyl saith gwely, i ddynion a menywod 18 oed ac yn hŷn, sydd ag anabledd dysgu neu'r rhai ag awtistiaeth ac anghenion cymhleth.
Mae'r tîm yn Holly yn darparu gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n gwella lles, yn hyrwyddo annibyniaeth, ac yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol.
Mae pecyn cymorth pob unigolyn wedi'i deilwra ar sail asesiad cynhwysfawr cyn eu derbyn sy’n sicrhau bod y gofal yn ymatebol i'w hanghenion unigryw.
Mae'r staff yn gweithio'n agos â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud, a bod y staff yn derbyn hyfforddiant arbenigol parhaus i ddarparu'r lefel gywir o ofal a chymorth.
Highfield Park, Dinbych
7 ystafell wely
Gwasanaeth rhywiau cymysg
Awtistiaeth, Anableddau Dysgu, Anghenion Cymhleth.
Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Holwch am leoliad:
01824 790600
Mae sgiliau byw pob dydd yn cael eu hystyried yn agweddau pwysig o arferion dyddiol pobl er mwyn cyflawni canlyniadau personol a chynyddu annibyniaeth.