Cartrefi gofal preswyl arbenigol

trefnu lleoliad

Cartrefi preswyl, cartrefi gofal gyda nyrsio, a chartrefi preswyl sydd ag achrediad awtistiaeth, yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr

Cartrefi Preswyl

Mae ein cartrefi preswyl yn cefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu cymhleth, y rhai sy'n awtistig a/neu bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, i ddatblygu neu adeiladu sgiliau bywyd hanfodol sy'n eu paratoi nhw ar gyfer byw'n fwy annibynnol. Mae gan MHC amrywiaeth fawr o wasanaethau preswyl, o drefniadau byw i unigolyn sengl i drefniadau byw mewn grŵp. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynyddu neu ostwng darpariaeth yn dibynnu ar anghenion a datblygiad yr unigolyn.

Cartrefi Gofal Preswyl gyda Nyrsio

Mae ein cartrefi gofal gyda chymorth nyrsio’n cefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu, y rhai sy’n awtistig a/neu bobl gyda phroblemau iechyd meddwl sydd angen cyfleuster camu i lawr o wasanaethau acíwt neu gamu i fyny o wasanaethau yn y gymuned. Efallai y bydd angen gofal nyrsio a chymorth arnynt i’w galluogi i gyflawni eu potensial drwy wella eu llesiant, eu hannibyniaeth ac ansawdd eu bywydau

Cartrefi Preswyl wedi'u Hachredu ar gyfer Awtistiaeth

Mae ein gwasanaethau achrededig ar gyfer awtistiaeth yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n awtistig, sydd ag anabledd dysgu a/neu sydd ag anghenion cymhleth cysylltiedig. Unigolion sydd â ffyrdd o ymddwyn, cyfathrebu’n gymdeithasol a rhyngweithio’n gymdeithasol a allai elwa o’r dull sy’n cael ei gynnig yn y gwasanaethau hyn.

Cartrefi Cymorth Dwys

Yn ogystal â'n cartrefi awtistiaeth a phreswyl cyffredinol ar Highfield Park mae gennym hefyd bedwar cartref ar ddull fflatiau sengl i unigolion sydd angen cefnogaeth ddwys a chymhareb staffio uchel.

Mae MHC yn credu'n gryf y dylai pobl sydd ag anabledd dysgu fyw mewn cartrefi, nid ysbytai. Mae gennym hanes wedi'i brofi o gefnogi unigolion sydd ag anghenion cymhleth i symud i lawr o wasanaethau ysbyty dwyster uchel i leoliadau llai cyfyngol, lle gallant fwynhau bywyd o well ansawdd a chael mynediad diogel i'r gymuned ac at weithgareddau ystyrlon.

Trefnu lleoliad

Mae lleoliadau llwyddiannus yn dechrau ar adeg yr atgyfeirio. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod unigolion yn cael eu lleoli'n ddiogel o fewn cartrefi sy'n briodol i'w lefel o angen. Isod mae amlinelliad byr o'n gweithdrefn leoli:

Ymholiad Cyntaf

Ffoniwch ni ar 01824 790600, neu defnyddiwch ein ffurflen ymholiad ar-lein am leoliad.

Gwneud Atgyfeiriad

Anfonwch ddogfennau atgyfeirio i placement@mhc-uk.com

Asesiad

Unwaith y nodir gwasanaeth priodol, bydd eich atgyfeiriad yn cael ei anfon at y Rheolwr Cofrestredig a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a allant ddiwallu'r anghenion. Os bydd yr arwyddion cychwynnol yn gadarnhaol, bydd y Rheolwr Cofrestredig yn trefnu i gynnal adolygiad mwy cynhwysol a chyfarfod â'r unigolyn a'r holl randdeiliaid perthnasol.

Cynnig Lleoliad

Os bydd yr unigolyn a'r cartref yn cyd-fynd yn dda ac mae'r ddau eisiau bwrw ymlaen, bydd y Rheolwr Cofrestredig yn gwneud cynnig lleoliad sy'n cynnwys cynllun darparu gwasanaeth sy'n amlinellu'r canlyniadau cychwynnol a'r cynllun gofal yn glir.

Mae'r Lleoliad yn Dechrau

Os yw'n dderbyniol i bawb, gan gynnwys yr unigolyn, bydd y trosglwyddiad yn dechrau, a bydd yr unigolyn yn dechrau byw yn un o gartrefi gofal MHC.

Cefnogi llwyddiant