Cyfleoedd dilyniant

Gyrfa sy'n cynnig

Gyrfa wobrwyol, gyda chyfleoedd dilyniant

Yn MHC, gallwch ddechrau fel Gweithiwr Gofal, ac ennill y cymwysterau a'r profiad i symud ymlaen i swydd rheolwr uwch o fewn y sefydliad.

Dechreuodd llawer o'n tîm rheolwyr uwch fel Gweithwyr Gofal yn MHC.

Yn MHC, hoffem i'n gweithwyr aros gyda ni am amser hir, ac mae llawer ohonynt wedi gwneud hynny!

Maent yn sôn am y teimlad teuluol ymhlith y timau staff, a'r gefnogaeth a gynigir i'w galluogi nhw i ennill y cymwysterau, y profiad, a'r sgiliau, i ddatblygu eu gyrfa, gan ofalu am unigolion sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth, anableddau dysgu, a materion iechyd meddwl.

Felly os ydych chi'n chwilio am gyflog deniadol, hyfforddiant helaeth i'ch helpu i ddysgu sgiliau newydd ac ennill rhagor o gymwysterau, a'r cyfle i ddatblygu eich gyrfa ac amrywiaeth eang o fanteision eraill, ymunwch â MHC.