The Lodge
Cartref preswyl tair ystafell wely yw The Lodge, i ddynion neu fenywod 18 oed ac yn hŷn sydd ag anabledd dysgu, neu sydd ag awtistiaeth ac anghenion cymhleth cysylltiedig
Mae The Lodge mewn amgylchedd diogel a chefnogol, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person ac yn parchu anghenion, dewisiadau a nodau unigryw pob unigolyn
Mae'r tîm yn canolbwyntio ar rymuso preswylwyr i fyw mor annibynnol â phosibl, gan sicrhau eu bod yn derbyn y lefel gywir o gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda bywyd pob dydd, gofal personol, rheoli meddyginiaeth, a chefnogaeth gadarnhaol gydag ymddygiad, a hyn oll wedi'i deilwra i anghenion penodol pob person
Highfield Park, Dinbych
3 ystafell wely
Gwasanaeth rhywiau cymysg
Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth, Anableddau Dysgu.
Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Holwch am leoliad:
01824 790600
Dw i’n methu gweld unrhyw beth o’i le ar staff a chyfleusterau The Lodge. Mae fy merch mor hapus yn byw yno ac mae hynny i gyd oherwydd y staff.
Rhiant