Pwy ydym ni, a beth rydym yn ei wneud

Dysgu rhagor

Rydym yn ddarparwr arbenigol â gwerthoedd yn ein llywio sy'n anelu at rymuso unigolion i wneud penderfyniadau a byw bywydau llawn a chyfoethog.

Yr hyn a wnawn

Yn MHC, rydym yn arbenigo mewn darparu cartrefi gofal preswyl, a chartrefi gofal â nyrsio sy'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu, awtistiaeth, cyflyrau iechyd meddwl cysylltiedig, anghenion cymhleth a/neu ymddygiad a ystyrir yn heriol.

Rydym yn darparu diwylliant sy'n grymuso'r bobl y gweithiwn â nhw i gyflawni eu potensial trwy gynnig lleoliadau hyblyg ar gyfer unigolion cymhleth sydd angen cefnogaeth unigol.

Ein ffocws yw darparu gofal sy'n cynnig gwerth am arian gan hefyd sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i'r unigolion yn ein gofal.

Sut rydyn ni'n gwneud hyn

Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn datblygu llwybrau gofal ar gyfer unigolion sy'n eu galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a symud ymlaen i ran nesaf eu taith mewn bywyd. Rydym yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd teulu, ffrindiau a gofalwyr ym mywyd yr unigolyn ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yng ngofal eu hanwyliaid tra byddan nhw gyda ni.

Am fod ein gofal yn fawr