Daethom ynghyd yn ddiweddar i ddathlu carreg filltir anhygoel i un o'n preswylwyr yn Elm wrth iddo baratoi i ddechrau pennod newydd gyffrous.
Mae wedi byw yn Elm ers Awst 2020 ac mae wedi dangos penderfyniad, gwydnwch a thwf personol rhyfeddol drwy gydol ei daith. Mae'r ffaith ei fod yn symud ymlaen yn gyflawniad gwych ac yn un y mae pawb sy'n ymwneud ag o'n hynod o falch ohono.
I nodi'r achlysur, daethom ynghyd ar gyfer dathliad a oedd yn llawn chwerthin, atgofion a digonedd o'i hoff fwydydd. Roedd yn gyfle gwych i ystyried mor bell y mae wedi dod ac i feddwl am yr holl bobl sydd wedi ei gefnogi ar hyd y ffordd.
Er y byddwn yn gweld ei eisiau o amgylch Elm, rydym wrth ein boddau ei weld yn cymryd y cam nesaf hwn. Ni allwn fod yn fwy balch o bopeth y mae wedi'i gyflawni a dymunwn bob hapusrwydd a llwyddiant iddo wrth iddo ddechrau'r bennod newydd a chyffrous hon.
Am lwyddiant anhygoel!


