Dull

Ein

Am fod ein gofal yn fawr

Mae MHC yn darparu gofal trugarog, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu, awtistiaeth, cyflyrau iechyd meddwl, ac ymddygiad a ystyrir yn heriol.

Rydym yn parchu'r unigolion sydd yn ein gofal am y bobl ydyn nhw; eu hanghenion, eu dymuniadau a’‍u dyheadau. Rydym yn cydnabod yr heriau y maent yn eu hwynebu gydag empathi a chymorth.

Trwy berthnasau ystyrlon a chadarnhaol, rydym yn anelu at feithrin ymddiriedaeth a diogelwch sy'n ein galluogi i ymgysylltu'n gadarnhaol â sgiliau newydd a datblygiad er mwyn cael lleoliad mwy annibynnol.

Gan fod pobl yn unigryw, dydyn ni ddim yn gweithio i un fethodoleg nac yn defnyddio un dull i bawb. Mae gwybodaeth a sgiliau gan ein timau staff medrus ac maen nhw'n defnyddio'r strategaethau mwyaf priodol yn cynnwys cefnogaeth weithredol, cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol, dulliau sy'n seiliedig ar drawma, neu broffilio synhwyraidd.

I'r unigolion hynny sydd â chyflyrau iechyd meddwl parhaus, mae rhan o'u rhaglen yn cynnwys dysgu derbyn, deall a rheoli eu cyflyrau eu hunain, gan sicrhau felly eu bod yn gallu symud ymlaen i arwain bywydau diogel a phwrpasol. Lle mae iechyd meddwl yn dirywio, gallwn ymateb yn gyflym, gan helpu i leihau'r tebygolrwydd o orfod mynd i'r ysbyty lle bynnag y bo modd.

Ymhob un o'n cartrefi rydym wedi creu amgylcheddau cefnogol sydd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion y bobl sy'n byw ynddynt. Mae gennym gymysgedd o wasanaethau; cartrefi preswyl sydd â ffocws ar awtistiaeth, anabledd dysgu cymhleth, diagnosis deuol, cymorth nyrsio pwrpasol, a chartrefi wedi eu seilio yn y gymuned sy'n meithrin adferiad ac annibyniaeth.

Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau preswyl wedi’u llunio i ddiwallu anghenion cymhleth gydag urddas, dealltwriaeth, a pharch at daith unigryw pob unigolyn.