ARWEINYDD TÎM – Pine cottages, Highfield Park, LL16 4LU
Ynglŷn â'r swydd
Fel Arweinydd Tîm byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau o fewn y cartref trwy sicrhau bod arferion gwaith da yn cael eu hyrwyddo, trwy gynnig cefnogaeth i staff a thrwy weithredu fel model rôl. Byddwch yn gweithio'n agos â'r Dirprwy Reolwr yn ogystal â'r Rheolwr Cofrestredig i ddarparu cymorth proffesiynol, goruchwyliaeth ac arweiniad i Weithwyr Cymorth, a sicrhau parhad gofal. Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm staff ymroddedig, cymwysedig a galluog sy'n rhoi'r bobl sy'n byw yma wrth galon yr hyn a wnawn.
Highfield Park
Mae Highfield Park mewn rhan hynod brydferth o Ogledd Cymru ac mae yno 13 o wasanaethau preswyl i oedolion sydd ag anableddau dysgu, awtistiaeth, ymddygiad heriol, problemau iechyd meddwl neu ymddygiad cymhleth. Mae pob cartref yn ddarpariaeth arbenigol gyda'i dîm staff pwrpasol ei hun.
Yr hyn y gall MHC ei gynnig
Mae'n adeg gyffrous i ymuno â MHC gan fod ein tîm arweinyddiaeth newydd yn chwilio am unigolion ymroddedig a fydd yn wirioneddol gefnogi, diogelu a gofalu am yr oedolion sydd dan ein gofal. Os oes gennych y cydymdeimlad, yr ymrwymiad a'r gallu i weithio i ni, byddwn yn rhoi gyrfa i chi y gallwch fod yn falch ohoni.
Trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein, hyfforddiant cynhwysfawr, anogaeth ac amgylchedd cefnogol, rydym yn ymroddedig i'ch helpu i ffynnu a darparu safonau rhagorol o ofal i'r bobl yr ydym yn eu cefnogi.
Rydym yn deall mai ein timau staff yw’r allwedd i’r gofal a’r gefnogaeth eithriadol yr ydym yn eu cynnig. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi yn ein tîm, yn cynnig gwaith hyblyg, cyflog cystadleuol, cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, cyfleoedd dilyniant, cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol QCF, talebau gofal llygaid a phensiwn y gweithle.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n weithiwr gofal neu weithiwr cymorth profiadol, neu os ydych chi'n teimlo y gallwch wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl eraill, rydym eisiau clywed gennych! Llenwch y ffurflen gais fer neu uwchlwythwch eich CV. Neu, i gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon gallwch gysylltu â Gweithlu MHC ar 01824 572020.
Mae MHC yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bawb sy’n credu eu bod yn cwrdd â’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon waeth beth fo'u hil, rhyw, ailbennu rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd/mamolaeth, anabledd, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.
*Nodwch, rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod o leiaf 18 oed*
*Nodwch nad yw MHC yn cynnig unrhyw nawdd newydd ar gyfer swyddi ar hyn o bryd*
#P02
Mae Pine Cottages yn cynnwys pedwar bwthyn ac yn cynnig lleoliad preswyl chwe gwely i ddynion a menywod 18 oed ac yn hŷn sydd ag anabledd dysgu neu awtistiaeth ac anghenion cymhleth.
Cunllunio Pine Cottages yw i gefnogi unigolion ar wahanol gamau o annibyniaeth, boed yn pontio tuag at fyw yn fwy annibynnol fel rhan o lwybr gofal ehangach neu os oes angen cymorth mwy pwrpasol ar sail 1:1 neu 1:2. Mae'r tîm ymroddedig yn sicrhau bod gofal yn cael ei lunio o amgylch anghenion a dewisiadau unigryw pob person.
Mae'r safle'n cynnwys pedwar bwthyn sydd wedi'u dylunio'n ofalus: dau fwthyn dwy ystafell wely – sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n elwa o fyw ar y cyd ag eraill – a dau fwthyn ar gyfer un preswylydd.