Rose House

Mae Rose House yn gartref preswyl gyda thair ystafell wely ar gyfer dynion a menywod 18 oed ac yn hŷn, sydd ag anabledd dysgu neu awtistiaeth ac anghenion cymhleth cysylltiedig

Mae ein ffocws ar rymuso unigolion i fyw mewn ffordd mor annibynnol â phosibl, gan hefyd roi cefnogaeth gyson iddyn nhw gyda phob agwedd ar fywyd bob dydd, yn cynnwys gofal personol, rheoli meddyginiaeth a chefnogaeth ymddygiad cadarnhaol.

Rydym hefyd yn mynd ati i annog ymgysylltiad â'r gymuned, gan helpu preswylwyr i feithrin hyder a chysylltiadau ystyrlon y tu hwnt i'r cartref.

Mae pob unigolyn yn elwa o gynllun cefnogaeth personol sydd wedi’i ddatblygu gan ein tîm o staff cymwys a thosturiol.

Highfield Park, Dinbych

3 ystafell wely

Gwasanaeth rhywiau cymysg

Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth, Anableddau Dysgu.

Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Holwch am leoliad:

01824 790600

Cadarnhaodd y staff fod pobl yn hapus yn byw yn Rose House ac yn mwynhau bywyd o ansawdd da ac roedden nhw’n disgrifio sut maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â'u teulu a'u ffrindiau ac yn ymweld â nhw.

Arolygiaeth Gofal Cymru