Oak

Cartref preswyl wyth gwely wedi'i achredu ar gyfer Awtistiaeth, sy'n cefnogi dynion a menywod 18 oed ac yn hŷn, sydd ag anabledd dysgu, awtistiaeth gydag anghenion cymhleth ac ymddygiadau sy’n cael eu hystyried yn heriol.

Mae Oak wedi'i leoli mewn lleoliad gwledig tawel ac mae’n creu awyrgylch sy'n cefnogi byw therapiwtig.

Mae pob agwedd ar y cartref, o'i ddyluniad mewnol i'w gynllun, wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio palet lliw ac egwyddorion dylunio sy'n addas i bobl ag awtistiaeth.

Mae'r cartref yn dilyn dull cymorth gweithredol sy'n canolbwyntio ar y person ac sydd wedi'i deilwra i anghenion a dyheadau unigryw pob unigolyn. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau bywyd a meithrin annibyniaeth, ac mae pob preswylydd yn cael ei gefnogi drwy gyfrwng llwybrau gofal personol.

Highfield Park, Dinbych

8 ystafell wely

Gwasanaeth rhywiau cymysg

Awtistiaeth, Anableddau Dysgu, Anghenion Cymhleth.

Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Holwch am leoliad:

01824 790600

Gwelsom ofal yn cael ei ddarparu mewn ffordd weithredol a chefnogol. Mae gan bobl eu harferion rheolaidd eu hunain ac maen nhw’n cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a sgiliau byw bob dydd.

Arolygiaeth Gofal Cymru