Elm

Cartref preswyl wyth gwely wedi'i achredu ar gyfer Awtistiaeth. Mae’n cefnogi dynion a menywod 18 oed neu’n hŷn sydd ag anabledd dysgu ac awtistiaeth gydag anghenion cymhleth cysylltiedig

Cafodd Elm ei gynllunio'n feddylgar i ateb anghenion unigolion sydd ag awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig

Mae'r cartref yn cynnwys wyth ystafell wely en-suite, mannau byw cymunedol eang, ystafell weithgareddau bwrpasol, ystafell ymgolli synhwyraidd, a chegin Gweithgareddau Byw Bob Dydd (ADL) sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae gan Elm ardd synhwyraidd dawel hefyd, sy'n cynnig gofod awyr agored therapiwtig. Mae'r dyluniad mewnol yn ymgorffori palet lliw sy'n dda i bobl ag awtistiaeth a phaneli acwstig i leihau gorlwytho synhwyraidd a chefnogi amgylchedd tawel

Highfield Park, Dinbych

8 ystafell wely

Gwasanaeth rhywiau cymysg

Awtistiaeth, Anableddau Dysgu, Anghenion Cymhleth.

Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Holwch am leoliad:

01824 790600

Gwelsom fod pobl sy'n byw yn Elm yn cael gofal a chymorth o ansawdd da gan dîm staff sefydlog ac ymroddedig.

Arolygiaeth Gofal Cymru