Beech

Mae Beech yn gartref gofal preswyl i bobl 18 oed ac yn hŷn sy'n byw â diagnosis o awtistiaeth, anabledd dysgu ac anghenion cymhleth.

Mae Beech wedi'i ddatblygu'n ystyriol i ddarparu cartref preswyl dwy ystafell wely. Mae'n cynnwys dau le byw ar wahân, ar ddull fflatiau.

Cafodd Beech ei gynllunio'n bwrpasol i gynnig amgylchedd lle gall staff ddarparu cymorth arbenigol o ansawdd uchel i oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth sylweddol ac anghenion cysylltiedig

Mae pob elfen o'r cartref wedi'i chreu gyda gofal, gan sicrhau safon uchel o lety sy'n diwallu anghenion amrywiol, ac weithiau gymhleth, y bobl y mae'n eu cefnogi.

Highfield Park, Dinbych

2 ystafell wely

Gwasanaeth rhywiau cymysg

Anabledd Dysgu, Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth.

Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Holwch am leoliad:

01824 790600

Mae Beech wedi agor drysau i fy mab yr oedd pobl wedi dweud na fyddai byth yn bosibl. Mae wedi ei wneud yn ddyn ifanc hapus ac iach

Mam