Cenhadaeth, gweledigaeth, a gwerthoedd
Ein
Ein cenhadaeth
Mae MHC yn darparu lle byw i oedolion sydd ag Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth, Anableddau Dysgu a/neu Gyflyrau Iechyd Meddwl yn un o'n cartrefi preswyl arbenigol, lle maen nhw’n derbyn y gefnogaeth broffesiynol sydd ei hangen arnynt i allu byw yn fwy annibynnol.
Mae MHC yn cynnig llwybr gofal cyflawn i'r bobl sy'n byw gyda ni: mae hyn yn golygu bod pob unigolyn yn gallu symud rhwng ein cartrefi er mwyn dod o hyd i'r trefniadau byw lleiaf cyfyngol a bywyd o’r ansawdd gorau, sy’n adlewyrchu eu potensial personol, eu hanghenion a'r risg go iawn.
Mewn partneriaeth â theuluoedd a rhanddeiliaid, mae MHC wedi ymrwymo i gefnogi'r bobl sy'n byw gyda ni i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal.
Byddwn yn defnyddio ein llais gyda nhw ac ar eu rhan yn y drafodaeth genedlaethol i wella gwasanaethau ar gyfer oedolion sydd ag Awtistiaeth, Anghenion Cymhleth, Anableddau Dysgu a/neu Gyflyrau Iechyd Meddwl.