Tyfu wrth ddysgu
Ennill cyflog wrth ddysgu
Gyrfa wobrwyol, gyda chyfleoedd dilyniant
Yn union fel y bobl rydym yn eu cefnogi, rydym hefyd eisiau i'n staff ffynnu a blodeuo; er mwyn bod ar eu gorau.
Yn MHC, rydym yn hoffi i'n gweithwyr aros gyda ni am amser hir, ac mae llawer ohonynt wedi gwneud hynny!
Mae gan MHC hanes wedi'i brofi o ddyrchafu'n fewnol, ar draws y sefydliad. Dechreuodd y rhan fwyaf o'n Rheolwyr Cofrestredig eu gyrfaoedd fel gweithwyr gofal yn MHC. Yn yr un modd, mae nifer o'n Cyfarwyddwyr wedi symud i fyny drwy'r rhengoedd, gan ennill cymwysterau, profiad a gwybodaeth werthfawr ar hyd y ffordd.
Yn yr arolwg staff diwethaf, soniodd y staff am y teimlad teuluol ymhlith y timau staff, a'r gefnogaeth a gynigir i'w galluogi i ennill y cymwysterau, y profiad a'r sgiliau i ddatblygu eu gyrfaoedd, gan ofalu am unigolion sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth, anableddau dysgu, a materion iechyd meddwl.
Os ydych chi'n gobeithio gweithio mewn maes lle gallwch gyfrannu at wella bywydau pobl eraill, lle gallwch ychwanegu gwerth, gofal a chymorth i unigolion sydd angen gofal a chymorth, yna dewch i ymuno â ni.
Os ydych chi eisiau swydd a dim byd arall, yna mae'n debyg nad ni yw'r lle i chi. Rydym eisiau staff sy'n wirioneddol ymroddedig ac sy'n gallu rhannu ein gwerthoedd a'n cred bod gofalu am rywun yn fraint, nid yn faich.
Am hynny rydym yn cynnig cyflog deniadol, amrywiaeth eang o fuddion i staff a chyfle i ennill cymwysterau a sgiliau newydd. Mae dilyniant ar gael i bawb; chi sy'n dewis pa mor bell yr ydych eisiau mynd!