Diwrnod Arbennig yn Elm

Daethom ynghyd yn ddiweddar i ddathlu carreg filltir anhygoel i un o'n preswylwyr yn Elm wrth iddo baratoi i ddechrau pennod newydd gyffrous.

Mae wedi byw yn Elm ers Awst 2020 ac mae wedi dangos penderfyniad, gwydnwch a thwf personol rhyfeddol drwy gydol ei daith. Mae'r ffaith ei fod yn symud ymlaen yn gyflawniad gwych ac yn un y mae pawb sy'n ymwneud ag o'n hynod o falch ohono.

I nodi'r achlysur, daethom ynghyd ar gyfer dathliad a oedd yn llawn chwerthin, atgofion a digonedd o'i hoff fwydydd. Roedd yn gyfle gwych i ystyried mor bell y mae wedi dod ac i feddwl am yr holl bobl sydd wedi ei gefnogi ar hyd y ffordd.

Er y byddwn yn gweld ei eisiau o amgylch Elm, rydym wrth ein boddau ei weld yn cymryd y cam nesaf hwn. Ni allwn fod yn fwy balch o bopeth y mae wedi'i gyflawni a dymunwn bob hapusrwydd a llwyddiant iddo wrth iddo ddechrau'r bennod newydd a chyffrous hon.

Am lwyddiant anhygoel!

Ffair Haf MHC â Thema'r Gorllewin Gwyllt

Ffair Haf MHC â Thema'r Gorllewin Gwyllt

Un o uchafbwyntiau ein haf yn Highfield Park oedd ein Ffair Haf fendigedig oedd â thema'r Gorllewin Gwyllt, a ddaeth â...
Llwyddiant Georgia yn Pine Cottages

Llwyddiant Georgia yn Pine Cottages

Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchiad o ymroddiad, ymrwymiad a brwdfrydedd Georgia dros ddarparu cymorth a gofal o safon uchel.
Preswylydd o Holly yn Dangos Ysbryd Cymunedol

Preswylydd o Holly yn Dangos Ysbryd Cymunedol

Cymerodd un o'n preswylwyr o Holly ran mewn gweithgaredd cymunedol newydd, gan helpu i gasglu sbwriel o amgylch Highfield Park.