Yn rhan o Grŵp Sgiliau Coginio Iach newydd Glyn Rhosyn, mae'r preswylwyr wedi bod yn dysgu pam mae bwyta'n iach yn chwarae rhan mor bwysig mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Trwy baratoi prydau bwyd ffres a chytbwys, cefnogir unigolion i gynnal eu hiechyd corfforol, eu lefelau egni a’u lles cyffredinol.
Yn ddiweddar, mae’r grŵp wedi mwynhau gwneud amrywiaeth o brydau maethlon yn cynnwys Pupurau wedi'u Llenwi a'u Rhostio, Fflapjacs Mêl a Phastai Bwthyn, oll gan ddefnyddio cynhwysion ffres oedd yn syml ac yn hygyrch i’w paratoi. Nid yn unig y mae’r sesiynau hyn yn hyrwyddo dewisiadau bwyd mwy iach, maen nhw hefyd yn annog annibyniaeth, hyder a rhyngweithio cymdeithasol, oll yn agweddau allweddol ar ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person.


