Willow
Cartref preswyl wyth gwely sydd wedi'i achredu ar gyfer awtistiaeth. Mae’n cefnogi dynion a menywod 18 oed ac yn hŷn sydd ag anabledd dysgu, awtistiaeth gydag anghenion cymhleth ac ymddygiadau sy'n cael eu hystyried yn heriol.
Prif bwrpas Willow yw cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth, gan hefyd weithio i sicrhau bod ymddygiadau heriol yn llai difrifol ac yn digwydd yn llai aml.
Dros amser, y nod yw galluogi unigolion i gamu i lawr i amgylchedd llai cyfyngol a pharhau ar hyd y llwybr gofal y maen nhw wedi’i ddewis. Mae hyd y cyfnod y maen nhw’n ei dreulio yn Willow yn dibynnu ar anghenion unigol pob person a'r llwybr cymorth sydd wedi ei gynllunio iddyn nhw.
Highfield Park, Dinbych
8 ystafell wely
Gwasanaeth rhywiau cymysg
Awtistiaeth, Anableddau Dysgu, Anghenion Cymhleth.
Rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Holwch am leoliad:
01824 790600
Mae’r staff yn cefnogi pobl mewn ffordd garedig a chefnogol, maen nhw’n bositif ac yn galonogol ac mae awyrgylch tawel a hamddenol yno.